Mae David Hopewell yn gerddor ac yn artist sain sy’n byw yng Ngogledd Cymru gyda
diddordeb neilltuol mewn myrfyfyrio, recordiadau amgylcheddol a pherfformiadau
byw. Mae ei waith yn ymddangos yn aml ar amrywiaeth o osodiadau cyngherddol,
arddangosfeydd mewn orielau celf ac yn cael eu chwarae yn achlysurol ar BBC
Radio 3.
Mae’n anodd i glustiau dynol werthfawrogi cymhlethdod cyflymder sydyn cân yr
aderyn yn llawn. Pan gaiff ei harafu mae’n hynod: riffiau Charlie Parker; corau,
canu uwchseiniol, rhyw foi yn chwibanu tiwn boblogaidd; hymian yn ysgafn.
Caneuon adar yn ystod y gwanwyn yng Ngogledd Cymru yw tarddiad y synau ar
Dinosaurs Among Us. Mae Dinosaurs Among Us ac Urvogel yn cychwyn gyda
recordiadau wedi eu harafu ond heb eu golygu. Yna, mae darnau o gerddoriaeth a
ganfuwyd yn cael eu datblygu i greu rhannau cyfansoddi...
See the full description and more info on http://cashmereradio.com